Genws sydd yn rhan o'r ffylwm Chlorophyta o algâu gwyrdd yw Chlamydomonas.
Mae Chlamydomonas yn ungellog ac yn fudol (gyda dau fflagelwm) ac mae'n byw mewn dŵr croyw. Mae i'w gloroplast stigma goleusensitif coch a ddefnyddir er mwyn cyfeiriadu. Fe'i defnyddir fel model mewn ymchwil ar gelloedd a moleciwlau mewn genynnau sy'n rheoli ffotosynthesis.[1]
Genws sydd yn rhan o'r ffylwm Chlorophyta o algâu gwyrdd yw Chlamydomonas.
Mae Chlamydomonas yn ungellog ac yn fudol (gyda dau fflagelwm) ac mae'n byw mewn dŵr croyw. Mae i'w gloroplast stigma goleusensitif coch a ddefnyddir er mwyn cyfeiriadu. Fe'i defnyddir fel model mewn ymchwil ar gelloedd a moleciwlau mewn genynnau sy'n rheoli ffotosynthesis.