Teulu o adar ydyw'r Rholyddion (Lladin: Coraciidae; Saesneg: Rollers), sy'n frodorol o Affrica, Ewrop ac Asia (yr Hen Fyd).
Mae'r grŵp yn cael ei enwi'n "Rholyddio" oherwydd y modd acrobatig mae nhw'n perfformio yn ystod paru neu ar deithiau hedfan tiriogaethol. Mae'r Rholeri'n debyg i frain o ran maint ond yn debycach i Leision y dorlan (Alcedo atthis) o ran eu plu lliwgar. Mae dau o fysedd traed blaen y Rholydd wedi'u cysylltu, ond nid yr un allanol.
Pryfaid yw eu prif fwyd, gyda'r rhywogaeth Eurystomus yn cymryd eu hysglyfaeth ar yr adain, ac aelodau'r genws Coracias yn plymio o gangen i ddal eu bwyd o'r ddaear.
Er bod y Rholyddion sy'n fyw heddiw'n byw mewn hinsawdd cynnes yr Hen Fyd, dengys cofnodion ffosil bod Rholyddion yn bresennol yng Ngogledd America yn ystod yr Eosen.[1] Maent yn unweddog (yn cadw'n ffydlon i'w gilydd fel pâr); mewn twll mewn coeden mae nhw'n nythu, neu weithiau mewn wal garreg. Yn y trofannau, mae'r iâr yn dodwy rhwng 2-4 wy ar y tro, ond ceir 3-6 ar y mynyddoedd. Gwyn ydy lliw'r wyau ac maent yn deor ar ôl 17-20 diwrnod. Mae'r cyw yn aros ger y nyth am tua 30 diwrnod wedi hynny.
Rhestr Wicidata:
teulu enw tacson delwedd Rholydd Coracias garrulus Rholydd Abysinia Coracias abyssinicus Rholydd adeinbiws Coracias temminckii Rholydd asur Eurystomus azureus Rholydd bronlelog Coracias caudatus Rholydd gyddflas Eurystomus gularis Rholydd India Coracias benghalensis Rholydd llwygynffonnog Coracias spatulatus Rholydd llydanbig Affrica Eurystomus glaucurus Rholydd llydanbig Asia Eurystomus orientalis Rholydd porffor Coracias naevius Rholydd torlas Coracias cyanogasterTeulu o adar ydyw'r Rholyddion (Lladin: Coraciidae; Saesneg: Rollers), sy'n frodorol o Affrica, Ewrop ac Asia (yr Hen Fyd).
Mae'r grŵp yn cael ei enwi'n "Rholyddio" oherwydd y modd acrobatig mae nhw'n perfformio yn ystod paru neu ar deithiau hedfan tiriogaethol. Mae'r Rholeri'n debyg i frain o ran maint ond yn debycach i Leision y dorlan (Alcedo atthis) o ran eu plu lliwgar. Mae dau o fysedd traed blaen y Rholydd wedi'u cysylltu, ond nid yr un allanol.
Pryfaid yw eu prif fwyd, gyda'r rhywogaeth Eurystomus yn cymryd eu hysglyfaeth ar yr adain, ac aelodau'r genws Coracias yn plymio o gangen i ddal eu bwyd o'r ddaear.
Er bod y Rholyddion sy'n fyw heddiw'n byw mewn hinsawdd cynnes yr Hen Fyd, dengys cofnodion ffosil bod Rholyddion yn bresennol yng Ngogledd America yn ystod yr Eosen. Maent yn unweddog (yn cadw'n ffydlon i'w gilydd fel pâr); mewn twll mewn coeden mae nhw'n nythu, neu weithiau mewn wal garreg. Yn y trofannau, mae'r iâr yn dodwy rhwng 2-4 wy ar y tro, ond ceir 3-6 ar y mynyddoedd. Gwyn ydy lliw'r wyau ac maent yn deor ar ôl 17-20 diwrnod. Mae'r cyw yn aros ger y nyth am tua 30 diwrnod wedi hynny.