Aderyn a rhywogaeth o adar yw Colomen graig (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: colomennod craig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Columba livia; yr enw Saesneg arno yw Feral rock pigeon. Mae'n perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae) sydd yn urdd y Columbiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. livia, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Maent yn byw mewn cynefinoedd creigiog ar draws Ewrop, rhannau o Asia a gogledd Affrica. Mae Colomennod Dof yn tarddu o Golomen y Graig. Mae llawer o adar dof wedi dianc i'r gwyllt gan ffurfio poblogaethau o Golomennod y Dref sydd wedi ymgartrefu mewn dinasoedd a threfi ac ar glogwyni ledled y byd. Mae Colomennod y Dref wedi disodli'r adar gwyllt mewn rhai rhanbarthau megis Cymru.[3]
Mae Colomen y Graig yn 31–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 230-370 g.[4] Mae adar gwyllt yn llwydlas gyda chrwmp gwyn a dwy linell ddu ar yr uwch-adain.[5] Mae Colomennod Dof a Cholomennod y Dref yn amrywio'n fawr o ran lliw.
Mae'r colomen graig yn perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Colomen Seland Newydd Hemiphaga novaeseelandiae Dodo Raphus cucullatus Turtur Streptopelia turtur Turtur alarus Streptopelia decipiens Turtur dorchgoch Streptopelia tranquebarica Turtur dorchog Streptopelia decaocto Turtur dorchog Jafa Streptopelia bitorquata Turtur dorwridog Streptopelia hypopyrrha Turtur ddaear blaen Columbina minuta Turtur ddaear gyffredin Columbina passerina Turtur y Galapagos Zenaida galapagoensisAderyn a rhywogaeth o adar yw Colomen graig (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: colomennod craig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Columba livia; yr enw Saesneg arno yw Feral rock pigeon. Mae'n perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae) sydd yn urdd y Columbiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. livia, sef enw'r rhywogaeth.
Maent yn byw mewn cynefinoedd creigiog ar draws Ewrop, rhannau o Asia a gogledd Affrica. Mae Colomennod Dof yn tarddu o Golomen y Graig. Mae llawer o adar dof wedi dianc i'r gwyllt gan ffurfio poblogaethau o Golomennod y Dref sydd wedi ymgartrefu mewn dinasoedd a threfi ac ar glogwyni ledled y byd. Mae Colomennod y Dref wedi disodli'r adar gwyllt mewn rhai rhanbarthau megis Cymru.
Colomen y DrefMae Colomen y Graig yn 31–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 230-370 g. Mae adar gwyllt yn llwydlas gyda chrwmp gwyn a dwy linell ddu ar yr uwch-adain. Mae Colomennod Dof a Cholomennod y Dref yn amrywio'n fawr o ran lliw.