Aderyn a rhywogaeth o adar yw Corhedydd y graig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: corhedyddion y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Anthus petrosus; yr enw Saesneg arno yw Rock pipit. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Mae'r teulu'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.[1] Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. petrosus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r corhedydd y graig yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Aderyn hirewin Sharpe Hemimacronyx sharpei Corhedydd euraid Tmetothylacus tenellus Corhedydd gyddfgoch Anthus cervinus Corhedydd melyn Anthus campestris Corhedydd y coed Anthus trivialis Corhedydd y dŵr Anthus spinoletta Corhedydd y waun Anthus pratensis Siglen felen Motacilla flava Siglen goedwig Dendronanthus indicus Siglen Lwyd Motacilla cinerea Siglen sitraidd Motacilla citreola Siglen wen Motacilla alba Telor hirbig Bocage Amaurocichla bocagiiPryfed mân o’r traeth yn arferol, ond cofnodwyd y canlynol pan fuont o dan bwysau:
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Corhedydd y graig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: corhedyddion y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Anthus petrosus; yr enw Saesneg arno yw Rock pipit. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Mae'r teulu'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion. Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. petrosus, sef enw'r rhywogaeth.