Aderyn sy'n aelod o deulu'r Regulidae yw'r Dryw Eurben (Regulus regulus). Ef yw'r aderyn lleiaf sy'n nythu yn Ewrop, 8.5 - 9.5 cm o hyd ac yn pwyso cyn lleied a 5 g. Mae'n nythu ar hyd rhannau eang o Ewrop, Asia a Macaronesia.
Mae'n wrydd golau ar y cefn ac yn wyn oddi tanodd. Yr unig aderyn tebyg yw'r Dryw Penfflamgoch, sydd a rhesen wen amlwg uwchben y llygad. Aderyn nodweddiadol o goedwigoedd conifferaidd yw'r Dryw Eurben. Yng ngogledd Ewrop ac Asia, gall fod yn aderyn mudol.
Mae'n aderyn pur gyffredin yng Nghymru, lle nad yw'n mudo yn y gaeaf.