dcsimg
Imagem de Filipendula
Life » » Archaeplastida » » Angiosperms » » Rosaceae »

Filipendula ulmaria (L.) Maxim.

Erwain ( Galês )

fornecido por wikipedia CY

Planhigyn blodeuol bythol (lluosflwydd) sy'n perthyn i deulu'r Rosaceae ac sy'n tyfu mewn gweirgloddiau gwlyb yw'r erwain (Lladin: Filipendula ulmaria; Saesneg: Meadow-sweet). Mae'n blanhigyn brodorol yn y rhan fwyaf o Ewrop ac Asia ac fe'i ceir hefyd yng ngogledd America ar ôl iddo gael ei gyflwyno yno a dechrau tyfu yn y gwyllt. Mae enwau eraill arno yn y Gymraeg yn cynnwys Chwys Arthur a Brenhines y weirglodd.

Mae'n blodeuo ym mis Gorffennaf.

Chwedlau

Mae gan y planhigyn le arbennig ym mytholeg Cymru fel un o'r blodau a ddefnyddir gan Math fab Mathonwy a Gwydion i greu Blodeuwedd:

Ac yna y cymerasant hwy blodeu y deri, a blodeu y banadl, a blodau yr erwein, ac o'r rhei hynny, aswyno yr un forwyn decaf a theledicaf a welas dyn eiroed.[1]

Rhinweddau meddygol

 src=
Blodau a dail yn Jutland

Dywedir ei fod yn dda at yr annwyd, diffyg traul, gwrthweithio gwenwyn, ffliw, anhwylder ar yr arennau a'r bledren, llid yr isgroen (cellulitis), diffyg caws a nerfusrwydd. Dywedir hefyd fo ganddo'r gallu i ladd poen, fel asparin, heb effeithio leinin y stumog. Fel llawer o lysiau rhinweddol, y cwbl sydd angen ei wneud ydy berwi'r blodau am ddeg munud; dylid wedyn yfed tair cwpanaid y dydd am bythefnos - cyn brecwast.[2]

Cyfeiriadau

  1. Pedeir Keinc y Mabinogi, gol. Ifor Williams, (Caerdydd), tud. 83.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd

licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Erwain: Brief Summary ( Galês )