Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn llwyd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod llwydion; yr enw Saesneg yw Grayling, a'r enw gwyddonol yw Hipparchia semele.[1] Mae i'w weld yn yr Alban ac arfordir gogledd Lloegr, ar greigiau a thir llwm.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gweirlöyn llwyd yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn llwyd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod llwydion; yr enw Saesneg yw Grayling, a'r enw gwyddonol yw Hipparchia semele. Mae i'w weld yn yr Alban ac arfordir gogledd Lloegr, ar greigiau a thir llwm.