Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sgiwen fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgiwennod mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Catharacta skua; yr enw Saesneg arno yw Great skua. Mae'n perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. skua, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae'r Sgiwen Fawr yn un o'r mwyaf o'r sgiwennod, tua 50–58 cm o hyd a 125–140 cm ar draws yr adenydd. Mae'n nythu yng Ngwlad yr Ia, Norwy, Ynysoedd Faroe ac ynysoedd yr Alban, ar dir agored fel rheol. Dodwyir dau wy fel rheol, ac mae'r aderyn yn ymosod ar unrhyw anifail sy'n dod yn rhy agos at y nyth, gan gynnwys bodau dynol. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de a thua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf, gan gyrraedd cyn belled ag arfordir Gogledd America.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas glannau Cymru yn yr hydref, a gellir gweld nifer llai yn y gwanwyn ac ambell un yn ystod y gaeaf.
Mae'r sgiwen fawr yn perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Sgiwen fach Stercorarius pomarinus Sgiwen fawr Stercorarius skua Sgiwen frown Stercorarius antarcticus Sgiwen lostfain Stercorarius longicaudus Sgiwen Magellan Stercorarius chilensis Sgiwen Pegwn y De Stercorarius maccormicki Sgiwen y Gogledd Stercorarius parasiticusAderyn a rhywogaeth o adar yw Sgiwen fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: sgiwennod mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Catharacta skua; yr enw Saesneg arno yw Great skua. Mae'n perthyn i deulu'r Sgiwennod (Lladin: Stercoraridae) sydd yn urdd y Charadriiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. skua, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ewrop, Affrica ac Awstralia.