dcsimg

Hwyaden fwythblu ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Somateria mollissima

Mae'r Hwyaden Fwythblu (Somateria mollissima) yn un o deulu'r hwyaid sy'n aderyn niferus ar hyd arfordir gogleddol Ewrop, gorllwein Asia a gogledd America.

 src=
Iâr ar ei nyth

Adeiledir y nyth yn agos at lan y môr, ac mae tu mewn y nyth wedi ei wneud o blu mân wedi eu tynnu o fron yr iâr. Hwn yw'r eiderdown sy'n cael ei ddenyddio i lenwi clustogau. Mae'n dal i gael ei gasglu mewn rhai ardaloedd, er fod plu gwyddau fferm neu ddeunydd synthetig yn fwy cyffredin erbyn hyn. Yn y gaeaf mae'r Hwyaden Fwythblu yn symud tua'r de ac yn treulio'r garaf ar y môr. Weithiau gellir gweld heidiau mawr gyda'i gilydd. Maent yn bwydo ar anifeiliaid bychain megis crancod, ac yn plymio i'r gwaelod i'w dal.

Gellir adnabod y ceiliog yn hawdd; mae'n aderyn tarawiadol iawn gyda'i blu du a gwyn a' gwyrdd ar y gwegil. Mae'r iâr yn frown, ond mae'n weddol hawdd ei gwahaniaethu oddi wrth ieir hwyaid eraill oherwydd ei maint a siâp y pen a'r pig.

Nid yw'r Hwyaden Fwythblu yn aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond mae'r niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ychydig o barau wedi dechrau nythu o gwmpas arfordir Ynys Môn a Gwynedd.

 src=
Dosbarthiad yr Hwyaden Fwythblu (Gwyrdd - nythu; Glas - gaeaf)
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY