Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw Cwtiad y Traeth (Arenaria interpres). Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America.[1] Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.[2]
Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g.[2] Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.
Aderyn rhydiol o deulu'r Scolopacidae yw Cwtiad y Traeth (Arenaria interpres). Mae'n nythu ar y twndra, ger y môr fel arfer, yn rhanbarthau arctig Ewrasia a Gogledd America. Mae'n treulio'r gaeaf ar hyd arfordiroedd ar draws y rhan fwyaf o'r byd. Mae'n bwydo ar bryfed, cramenogion, molysgiaid ac infertebratau eraill gan fwyaf.
Mae'n 22–24 cm o hyd ac mae'n pwyso 85–150 g. Yn ystod y tymor nythu, mae'n ddu ac orenfrown ar y cefn ac yn ddu a gwyn ar y pen a'r fron. Mae'n dywyllach ac yn llai lliwgar yn ystod y gaeaf.