Gwyfyn eitha mawr, sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallow-tailed Moth, a'r enw gwyddonol yw Ourapteryx sambucaria.[1][2]
Mae i'w ganfod yn rhan gorllewinol o Asia ac mae lled ei adenydd yn fwy na'r cyffredin: 50–62 mm. Edrycha'n hynod o debyg i löyn byw a chaiff ei enw oherwydd siap ei adenydd yn y cefn. Fe'i gwelir ar ei adain ym Mehefin a Gorffennaf, yn y nos. Yn aml, caiff ei ddenu at olau.
Mae'r siani flewog yn hoff iawn o fwyta dail llaeth y gaseg, y ddraenen, eiddew ac ysgawen.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn cynffon gwennol yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gwyfyn eitha mawr, sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallow-tailed Moth, a'r enw gwyddonol yw Ourapteryx sambucaria.
siani flewog wyau o'r tu blaenMae i'w ganfod yn rhan gorllewinol o Asia ac mae lled ei adenydd yn fwy na'r cyffredin: 50–62 mm. Edrycha'n hynod o debyg i löyn byw a chaiff ei enw oherwydd siap ei adenydd yn y cefn. Fe'i gwelir ar ei adain ym Mehefin a Gorffennaf, yn y nos. Yn aml, caiff ei ddenu at olau.