dcsimg

Gwiwer goch ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Anifail o drefn y cnofilod (Rodentia) yw'r wiwer goch (Sciurus vulgaris). Mae'n byw ar draws rhannau helaeth o Ewrop a gogledd Asia.

Fideo o'r wiwer goch yn cael ei hail-gyflwyno yng Nghoedwig Clocaenog, Sir ddinbych.

Mae'r Wiwer goch tua 19 – 23 cm i hyd heb y gynffon, sydd tua 15 – 20 cm o hyd; ychydig yn llai na'r Wiwer lwyd. Ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, mae niferoedd y Wiwer goch wedi gostwng yn fawr ers i'r Wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) gyrraedd o Ogledd America.

Yng Nghymru, mae Ynys Môn yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd y Wiwer goch, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu ymgyrch i ddifa'r Wiwer lwyd o'r ynys i roi cyfle i niferoedd y Wiwer goch gynyddu. Ceir hefyd boblogaeth yng Nghoedwig Clocaenog.

 src=
Dosbarthiad y Wiwer goch
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY