Planhigyn blodeuol bychan yw Berwr y fagwyr neu Arabidopsis thaliana. Mae'n perthyn i deulu'r bresych (Brassicaceae). Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Berwr y Fagwyr, Berfain Cyffredin, Berw'r Cerrig. A. thaliana oedd y planhigyn cyntaf i'w enom gael ei ddilyniannu [1] a dyma'r prif organeb model ar gyfer gwaith moleciwlaidd a datblygiadol mewn planhigion blodeuol.[2]
Llysieuyn bychan byr-ei-oes yw A. thaliana. Mae'r dail ar ffurf rhoséd trwchus, gyda llawer o goesennau'n gwahannu ar waelod y planhigyn. Mae'r coesennau yn sefyll i fyny heb ganghennu ymhellach fel arfer, a gallant dyfu hyd at 1–10 cm o daldra. Fe'i gorchuddir gan flew ysgafn. Mae gan y dail siap amddalen fain a di-fin, heb lawer o ddeilgoesyn, heb ddannedd neu'n fân-ddanheddog, 0.5–4 cm ar eu hyd a 0.3-1.5 cm ar eu traws, a gyda blew ar yr ochr uchaf ond bron yn ddi-flew ar yr ochr isaf. Mae'r sypiau blodau heb fractiau, yn gorymbaidd (mewn clystyrau trwchus), fel arfer gyda 15-30 blodyn ym mhob un. Mae'r sepalau yn wyrdd gydag ymylon gwyn culion, ac mae'r petalau yn wyn. Silicwâu yw'r ffrwythau – dau garpel wedi asio'n un ffrwyth. Ceir llawer iawn o hadau cochfrown crwn bychain ym mhob ffrwyth. Mae'n tyfu ar ucheldiroedd a rhosdiroedd (fel arfer ar resi grugaidd ac alpaidd), ar bridd agored ac ar uchder o 1750–4250 m.[2] Mae'r blodau'n hunanbeillio fel arfer, gyda graddfa allgroesi isel iawn o 0.3%.[3]
Planhigyn blodeuol bychan yw Berwr y fagwyr neu Arabidopsis thaliana. Mae'n perthyn i deulu'r bresych (Brassicaceae). Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Berwr y Fagwyr, Berfain Cyffredin, Berw'r Cerrig. A. thaliana oedd y planhigyn cyntaf i'w enom gael ei ddilyniannu a dyma'r prif organeb model ar gyfer gwaith moleciwlaidd a datblygiadol mewn planhigion blodeuol.