dcsimg

Morlo ( велшки )

добавил wikipedia CY

Mamaliaid sydd yn byw yn y môr yw morloi. Maen nhw'n nofio yn dda iawn ac fel arfer yn bwyta pysgod.

Ceir dau rywogaeth o forlo o gwmpas arfordir Cymru: y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) a'r Morlo Cyffredin (Phoca vitulina). Er gwaethaf yr enw, y Morlo llwyd yw'r mwyaf cyffredin o'r ddau. Mae traean (33.3%) o boblogaeth y byd i'w gweld ar arfordir Dyfed.

Mae'r morlo llwyd yn bridio mewn ogofâu ar arfordiroedd ac ynysoedd Penfro, Ceredigion, Llŷn a Môn. Roedd yn weddol brin ddechrau'r 20g oherwydd fe'u difawyd gan bysgotwyr a'u hela o ran difyrrwch. Cynyddodd eu niferoedd yn sgil Deddf i'w gwarchod yn 1932 a throi ynysoedd Penfro yn warchodfeydd natur.

Crwydrodd rhai morloi ifanc, a anwyd ac a fodrwywyd ym Mhenfro, cyn belled â Môn, gorllewin Iwerddon, Cernyw, Llydaw a Gwlad y Basg. Weithiau nofiai'r morlo i fyny afonydd, e.e. Glaslyn, Tywi, er mawr bryder i bysgotwyr eogiaid. Ystyrir eu galwadau cwynfanllyd yn arwyddion tywydd gan drigolion yr arfordir. Cyfeirir at forloi mewn enwau lleoedd, e.e. Ogo'r morloi (ynys Enlli), Ynysoedd y moelrhoniaid (Môn).

Prin iawn yw cofnodion o'r morlo cyffredin (Phoca vitulina) yng Nghymru - fe'i gwelir yn Sianel Bryste yn bennaf. Cafwyd corff morlo ysgithrog neu walrws ar draeth Cefn Sidan yn Nhachwedd 1986.



лиценца
cc-by-sa-3.0
авторски права
Awduron a golygyddion Wikipedia
изворно
посети извор
соработничко мреж. место
wikipedia CY