dcsimg

Rhwyll y crawcwellt ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhwyll y crawcwellt, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhwyllau'r crawcwellt; yr enw Saesneg yw Hedge Rustic, a'r enw gwyddonol yw Tholera cespitis.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop hyd at Siberia.

34–40 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac fe'i gwelir yn hedfan rhwng Gorffennaf a Medi, mewn un genhedlaeth yn unig.

Prif fwyd y siani flewog ydy gweiriau amrywiol gan gynnwys mathau o: Nodus stricta, Calamagrostis purpurea, Festuca a Deschampsia. Mae'r siani flewog i'w gweld rhwng Mawrth a Gorffennaf. Mae'n gaeafgysgu ar ffurf ŵy.

Is rywogaethau

  • Tholera cespitis cespitis
  • Tholera cespitis armena Hacker, 1986

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhwyll y crawcwellt yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.

Dolennau allanol

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY

Rhwyll y crawcwellt: Brief Summary ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhwyll y crawcwellt, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhwyllau'r crawcwellt; yr enw Saesneg yw Hedge Rustic, a'r enw gwyddonol yw Tholera cespitis. Mae i'w ganfod yn Ewrop hyd at Siberia.

34–40 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn ac fe'i gwelir yn hedfan rhwng Gorffennaf a Medi, mewn un genhedlaeth yn unig.

Prif fwyd y siani flewog ydy gweiriau amrywiol gan gynnwys mathau o: Nodus stricta, Calamagrostis purpurea, Festuca a Deschampsia. Mae'r siani flewog i'w gweld rhwng Mawrth a Gorffennaf. Mae'n gaeafgysgu ar ffurf ŵy.

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY