Planhigyn blodeuol o deulu'r Hypericaceae neu Clusiaceae ydy Dail y Beiblau (Saesneg: Tutsan; Lladin: Hypericum androsaemum) sy'n blodeuo rhwng Mehefin ac Awst. Gall dyfu hyd at 30–100 cm.
Ymhlith yr enwau eraill arno y mae: Dail Fyddigaidd, Cail Myddigad, Y Feidiog Las, Dail y Twrch, Gwaed y Gwŷr, Creulys Bendigaid, Creulys Bendiged, Dail Penddiged, Dail y Fendigaid, Eurinlys Bendigaid, Llys Perfigedd a Llys y Penddigaid.[1]
Mae'n tyfu mewn mannau tamp, ffosydd cysgodol ac mewn chloddiau.
Deillia'r enw o'r hen arferiad o ddefnyddio'r dail peraroglus fel llyfrnod mewn beiblau.[2]
Planhigyn blodeuol o deulu'r Hypericaceae neu Clusiaceae ydy Dail y Beiblau (Saesneg: Tutsan; Lladin: Hypericum androsaemum) sy'n blodeuo rhwng Mehefin ac Awst. Gall dyfu hyd at 30–100 cm.
Ymhlith yr enwau eraill arno y mae: Dail Fyddigaidd, Cail Myddigad, Y Feidiog Las, Dail y Twrch, Gwaed y Gwŷr, Creulys Bendigaid, Creulys Bendiged, Dail Penddiged, Dail y Fendigaid, Eurinlys Bendigaid, Llys Perfigedd a Llys y Penddigaid.
Mae'n tyfu mewn mannau tamp, ffosydd cysgodol ac mewn chloddiau.
Deillia'r enw o'r hen arferiad o ddefnyddio'r dail peraroglus fel llyfrnod mewn beiblau.