Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys llabedog (enw gwyddonol: Cephaloziella integerrima; enw Saesneg: lobed threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond mae ar gael yng Nghernyw.
Hwn yw un o'r rhywogaethau lleiaf o fewn y genws Cephaloziella,. Mae'n eitha tebyg i'r Edeulys cyfan (C. calyculata), ac mae gan y ddau deilflaguryn (gemma) tebyg i'w gilydd, oddigerth i'r ffaith fod Edeulys cyfan ychydig yn fwy, ac heb rannau coch / browngoch arnynt.
Mae pob un yn tyfu mewn hen safleoedd mwyngloddiau metelaidd, ar bridd braidd yn denau dros hen rwbel mwyngloddio sy'n aml wedi'i halogi gan gopr.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys llabedog (enw gwyddonol: Cephaloziella integerrima; enw Saesneg: lobed threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond mae ar gael yng Nghernyw.
Cephaloziella integerrima là một loài rêu trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được Lindb. Warnst. mô tả khoa học đầu tiên năm 1902.[1]
Cephaloziella integerrima là một loài rêu trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được Lindb. Warnst. mô tả khoa học đầu tiên năm 1902.