dcsimg

Edeulys pigog ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys pigog (enw gwyddonol: Cephaloziella spinigera; enw Saesneg: spiny threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngheredigion ac mewn llond llaw o lefydd yn yr Alban, Iwerddon a Lloger.

Disgrifiad

Mae gan yr Edeulys pigog ddail 2-labed syn rhanedig, fel arfer gydag ychydig o bigau hir ar yr ymylon. Byddai'n rhaid eu casglu er mwyn eu hadnabod drwy feicrosgop. Mae'r lliw porffor / coch yn nodweddiadol o C. spinigera, ac yn ei gwneud hi'n hawdd ei hadnabod. Mae'n blanhigyn monoicous gyda changhennau gwrywaidd a benywaidd. Mae'r coesynnau bychain yn llai na 0.5 mm o led, gyda'r dail yn llai na 0.25 mm o hyd.[1]

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. rbge.org.uk; adalwyd 5 Mehefin 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Edeulys pigog: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys pigog (enw gwyddonol: Cephaloziella spinigera; enw Saesneg: spiny threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngheredigion ac mewn llond llaw o lefydd yn yr Alban, Iwerddon a Lloger.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Cephaloziella spinigera ( Vietnamese )

provided by wikipedia VI

Cephaloziella spinigera là một loài rêu tản trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được (Lindb.) Jörg. miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1934.[1]

Chú thích

  1. ^ The Plant List (2010). Cephaloziella spinigera. Truy cập ngày 27 tháng 9 năm 2013.

Liên kết ngoài


Hình tượng sơ khai Bài viết liên quan đến bộ rêu Jungermanniales này vẫn còn sơ khai. Bạn có thể giúp Wikipedia bằng cách mở rộng nội dung để bài được hoàn chỉnh hơn.


license
cc-by-sa-3.0
copyright
Wikipedia tác giả và biên tập viên
original
visit source
partner site
wikipedia VI

Cephaloziella spinigera: Brief Summary ( Vietnamese )

provided by wikipedia VI

Cephaloziella spinigera là một loài rêu tản trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được (Lindb.) Jörg. miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1934.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Wikipedia tác giả và biên tập viên
original
visit source
partner site
wikipedia VI