Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]
Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).
Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.
Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]
Mae'r gwas y neidr yn hen grŵp a cheir ffosiliau o weision neidr mawr o gyfnod y Meganisoptera (tua 300-325 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol. Mae gan y ffosiliau hyn faint adenydd o 750 mm (30 mod). Yn y grŵp hwn mae'r Meganeuropsis, sef y pryf mway ei faint ar wyneb y Ddaear. Ceir tua 3,000 rhywogaeth o Anisoptera ar y Ddaear heddiw. Mae'r rhan fwyaf yn drofanol.
'Dyw'r union berthynas rhwng y gwahanol deuluoedd heb ei brofi'n llawn (yn 2015), ondmae'r coeden deulu canlynol yn rhoi syniad i ni o'r berthynas honno. Y llinellau toredig yw' berthynas nad ydyw wedi'i brofi'n llawn.
AnisopteraGomphidae (clubtails)
Aeshnoidea ('Ymerawdwyr')
Petaluridae ('Cynffonau petal')
Macromiidae ('Criwserod')
Cordulegastridae ('Cylchoedd aur')
Libellulidae (skimmers)
"Corduliidae" [Nid yw'n gytras] ('Y Gweision Gwyrdd')
Synthemistidae ('Cynffonau teigrod)
Ceir 57 o rywogaethau'r Odonata yng ngwledydd Prydain: mae 21 ohonynt yn fursennod (is-urdd Zygoptera) a 36 ohonynt yn weision neidr (is-urdd suborder Anisoptera). Ond ymwelwyr yw rhai o'r rhain ac mae rhai ar y rhestr wedi hen farw o'r gwledydd hyn. Y niferoedd sy'n parhau i baru ar yr ynysoedd hyn (yn 2015) yw 42, sef 17 o fursennod a 25 o weision neidr. Caiff y rhestr hon ei diweddaru ar adegau gan Odonata Records Committee a ffurfiwyd yn 1998.
Dyma nhw:
Ar lafar, ac yn gyffredinol gelwir y mursennod hefyd yn weision neidr, er nad yw hyn yn hollol gywir. Dyma'r prif grwpiau:
Mae gan nifer o weision neidr enwau Cymraeg ac mae'r rheiny ar y cyfan wedi'u canfod yng ngwledydd Prydain ar ryw gyfnod.
Yng Nghymru roedd 37 o rywogaethau o Urdd yr Odanata yn paru rhwng 2010 a 2015: 22 o fursennod (Zygoptera) a 15 o weision neidr (Anisoptera).[6]
Dyma'r gweision neidr:
Gwas neidr glas - Aeshna juncea
Gwas neidr mudol - Aeshna mixta
Gwas neidr y De - Aeshna cyanaea
Gwas neidr brown - Aeshna grandis
Ymerawdwr - Anax imperator
Ymerawdwr bach - Anax parthenope
Gwas neidr crwydrol - Anax (Hemianax) ephippiger
Gwas neidr flewog - Brachytron pratense
Gwas neidr dindrom - Gomphus vulgatissimus
Gwas neidr eurdorchog - Cordulegaster boltonii
Gwas gwyrdd blewog - Cordulia aenea
Picellwr wynebwyn - Leucorrhinia dubia
Picellwr pedwar nod - Libellula quadrimaculata
Picellwr praff - Libellula depressa
Picellwr tinddu - Orthetrum cancellatum
Picellwr cribog - Orthetrum coerulescens
Gwäell wythien goch - Sympetrum fonscolombii
Gwäell asgell aur - Sympetrum flaveolum
Gwäell rudd - Sympetrum sanguineum
Gwäell ddu - Sympetrum danae
Gwäell grwydrol - Sympetrum vulgatum
Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.
Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde. Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).
Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.
Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.