dcsimg

Mantell felyngoch ( 威爾斯語 )

由wikipedia CY提供

Glöyn byw sy'n perthyn i'r genws Dryas yn urdd y Lepidoptera yw mantell felyngoch, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll melyngoch; yr enw Saesneg yw Julia neu The Flame, a'r enw gwyddonol yw Dryas iulia (neu wedi'i gamsillafu weithiau fel: Dryas julia[1]) [2][3]. Fe'i canfyddir ym Mrasil, Texas a Florida ac yn ystod yr haf fe'i welir mewn cynefinodd mor bell i'r de â dwyrain Nebraska.

 src=
Glöyn wedi'i fframio.
Chwith: o'r top; dde: gwaelod - MHNT

Ceir dros 15 o isrywogaethau (gweler isod).

Mae'n löyn mawr, gyda lled yr adenydd ar ei eithaf rhwng 82 a 92 mm. Mae'r lliw oren yn fwy llachar yn y gwryw na'r fenyw. Yn wahanol i lawer o loynnod, caiff lonydd gan adar. Gan ei fod yn effro yn ystod y dydd a fod ganddo oes hir, mae'n eitha cyffredin ei wedi mewn adeiladau gloynnod e.e. Pili Palas.

Cynefin

Mae'r Fantell felyngoch yn hoff iawn o ymylon coedwigoedd, llennyrch a llwybrau cerdded. Mae'n chwim iawn ar ei adain. Prif fwyd y siani flewog ydy mathau o Passiflora.

Isrywogaethau

Yn nhrefn yr wyddor:[4]

  • D. i. alcionea (Cramer, 1779)
  • D. i. carteri (Riley, 1926)
  • D. i. delila (Fabricius, 1775)
  • D. i. dominicana (Hall, 1917)
  • D. i. framptoni (Riley, 1926)
  • D. i. fucatus (Boddaert, 1783)
  • D. i. iulia (Fabricius, 1775)
  • D. i. lucia (Riley, 1926)
  • D. i. largo Clench, 1975
  • D. i. martinica Enrico & Pinchon, 1969
  • D. i. moderata (Riley, 1926)
  • D. i. nudeola (Bates, 1934)
  • D. i. warneri (Hall, 1936)
  • D. i. zoe Miller & Steinhauser, 1992

Oriel luniau

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell felyngoch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Lamas, G. (editor) (2004). Atlas of Neotropical Lepidoptera. Checklist: Part 4A. Hesperioidea - Papilionoidea. ISBN 978-0-945417-28-6
  2. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  3. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  4. Dryas, funet.fi; adalwyd 18 Hydref
  • Butterflies and Moths of North America (BMNA) [2008]: Julia Heliconian. Retrieved 2008-AUG-14.
  • Miller, L. D. & Miller, J. Y. (2004): The Butterfly Handbook: 115. Barron's Educational Series, Inc., Hauppauge, New York. ISBN 0-7641-5714-0
許可
cc-by-sa-3.0
版權
Awduron a golygyddion Wikipedia
原始內容
參訪來源
合作夥伴網站
wikipedia CY

Mantell felyngoch: Brief Summary ( 威爾斯語 )

由wikipedia CY提供

Glöyn byw sy'n perthyn i'r genws Dryas yn urdd y Lepidoptera yw mantell felyngoch, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll melyngoch; yr enw Saesneg yw Julia neu The Flame, a'r enw gwyddonol yw Dryas iulia (neu wedi'i gamsillafu weithiau fel: Dryas julia) . Fe'i canfyddir ym Mrasil, Texas a Florida ac yn ystod yr haf fe'i welir mewn cynefinodd mor bell i'r de â dwyrain Nebraska.

 src= Glöyn wedi'i fframio.
Chwith: o'r top; dde: gwaelod - MHNT

Ceir dros 15 o isrywogaethau (gweler isod).

Mae'n löyn mawr, gyda lled yr adenydd ar ei eithaf rhwng 82 a 92 mm. Mae'r lliw oren yn fwy llachar yn y gwryw na'r fenyw. Yn wahanol i lawer o loynnod, caiff lonydd gan adar. Gan ei fod yn effro yn ystod y dydd a fod ganddo oes hir, mae'n eitha cyffredin ei wedi mewn adeiladau gloynnod e.e. Pili Palas.

許可
cc-by-sa-3.0
版權
Awduron a golygyddion Wikipedia
原始內容
參訪來源
合作夥伴網站
wikipedia CY