Gwas neidr o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr y De (lluosog: Gweision neidr y De; Lladin: Aeshna cyanea; Saesneg: Southern Hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Dyma un o'r rhywogaethau mwyaf niferus drwy Ewrop.
Eu tiriogaeth yw gorllewin y Palearctig a llawer o Ewrop gan gynnwys yr Alban a de Sgandinafia yn y gogledd a chanol yr Eidal a gogledd y Balcanau yn y de. Eu tiriogaeth pellaf yn y dwyrain yw Mynyddoedd yr Wral ac i'r gorllewin: Iwerddon. Fe'i ceir hefyd yng ngogledd Affrica. Ar adegau maent i'w gweld yng Nghymru.[2]
Mae'n was neidr eithaf hir, ac mae o faint mwy na'r cyffredin. Mae ganddo farciau gwyrdd ar gefndir du, ac mae gan y gwryw farciau gwyrdd hefyd ar ei abdomen. Mae Gwas neidr y De yn paru mewn dŵr sy'n llifo'n araf, ond mae'n hoff o fynd a dod allan o'i filltir sgwâr, ei gynefin, a gwelir ef yn aml mewn gerddi ac mewn coedlannnau agored. Mae ei gywreinrwydd yn ei ddenu allan o'i gynefin ac weithiau daw at bobl.
Wrth hedfan mae'n dal ei fwyd - pryfaid erall fel arfer, ond mae'r oedolyn ifanc yn bwyta pryfaid y dŵr, penbyliaid a physgod bychan. Yng ngorffennaf ac Awst, dair blynedd wedi iddynt ddeor, maent wedi datblygu digon i ddod allan o'r dŵr a dechrau hedfan.
Gwas neidr o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr y De (lluosog: Gweision neidr y De; Lladin: Aeshna cyanea; Saesneg: Southern Hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Dyma un o'r rhywogaethau mwyaf niferus drwy Ewrop.
Eu tiriogaeth yw gorllewin y Palearctig a llawer o Ewrop gan gynnwys yr Alban a de Sgandinafia yn y gogledd a chanol yr Eidal a gogledd y Balcanau yn y de. Eu tiriogaeth pellaf yn y dwyrain yw Mynyddoedd yr Wral ac i'r gorllewin: Iwerddon. Fe'i ceir hefyd yng ngogledd Affrica. Ar adegau maent i'w gweld yng Nghymru.