dcsimg

Morgi rhesog ( Galèis )

fornì da wikipedia CY

Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier[1]) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 ft 5 in) o hyd.[2] Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.[3]

Profile photo of shark, accompanied by remora, swimming just above a sandy seafloor
Morgi rhesog ifanc yn y Bahamas.

Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid.[3][4] Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.[5]

Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.[6]

Cyfeiriadau

  1. "ITIS Report – Galeocerdo cuvier". Integrated Taxonomic Information System!. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  2. Froese, Rainer and Pauly, Daniel, eds. (2011). "Galeocerdo cuvier" in FishBase. Fersiwn Gorffennaf 2011.
  3. 3.0 3.1 Ritter, Erich K. (15 December 1999). "Fact Sheet: Tiger Sharks". Shark Info.
  4. "Incredible moment killer whales hunt and kill a tiger shark". Daily Mail.
  5. Simpfendorfer, C. (2009). "Galeocerdo cuvier". Rhestr Goch yr IUCN. IUCN. 2009: e.T39378A10220026. doi:10.2305/IUCN.UK.2009-2.RLTS.T39378A10220026.en. Retrieved 15 Ionawr 2018.
  6. Knickle, Craig. "Tiger Shark Biological Profile". Florida Museum of Natural History Ichthyology Department.
licensa
cc-by-sa-3.0
drit d'autor
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visité la sorgiss
sit compagn
wikipedia CY

Morgi rhesog: Brief Summary ( Galèis )

fornì da wikipedia CY

Rhywogaeth o'r morgi requiem yw'r morgi rhesog (Galeocerdo cuvier) a'r unig aelod o'r genws Galeocerdo. Mae'n facroysglyfaethwr, ac yn gallu tyfu i dros 5 metr (16 ft 5 in) o hyd. Maent i'w canfod mewn nifer o ddyfroedd trofannol ac mewn hinsoddau tymherus, yn arbennig o gwmpas ynysoedd canol y Cefnfor Tawel. Mae ei enw yn cyfeirio at y rhesi tywyll ar ei gorff, sy'n pylu wrth i'r morgi aeddfedu.

Profile photo of shark, accompanied by remora, swimming just above a sandy seafloor Morgi rhesog ifanc yn y Bahamas.

Mae'r morgi rhesog yn hela ar ei ben ei hun ac yn ystod y nos yn bennaf. Mae'n cael ei adnabod am fod â'r ystod ehangaf o fwyd o'r holl forgwn, gydag ysglyfaeth yn cynnwys creaduriaid cramennog, pysgod, morloi, adar, môr-lewys, crwbanod y môr, nadroedd y môr, dolffiniaid, a hyd yn oed morgwn llai eu maint. Mae ganddo hefyd enw fel "bwytwr ysbwriel", yn llyncu amrywiaeth o wrthrychau anfwytadwy a wnaed gan bobl sy'n aros yn ei ystumog. Er eu bod yn ben ysglyfaethwyr, mae morgwn rhesog weithiau yn cael eu cipio gan leiddiaid. Mae'n cael ei ystyried yn rhywogaeth mewn perygl o ganlyniad i hela a physgota gan bobl.

Mae'r morgi rhesog yn ail yn unig i'r morgi mawr gwyn am y nifer o ymosodiadau marwol ar bobl.

licensa
cc-by-sa-3.0
drit d'autor
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visité la sorgiss
sit compagn
wikipedia CY