Urdd o lysiau'r afu yw Metzgeriales a gaif weithiau ei alw'n "urdd y thaloid syml", gan nad oes gan rywogaethau'r grŵp fawr o strwythur iddynt. Fel arfer nid oes ganddynt goesyn na dail. Fe'i gelwir yn "syml" gan fod eu meinwe'n denau ac heb fawr o wahaniaeth rhyngddynt; mae rhai rhywogaethau mor denau nes eu bod yn dryleu.
Mae gan bob aelod o'r grŵp hwn gyfnod gametoffyt a chyfnod byrach pan mae'r sborau'n aeddfed. Maent wedi eu dosbarthu'n bur eang, er eu bod wedi eu cyfyngu i ardaloedd o leithder uchel, neu gynefinoedd llaith. Yn wir, fe'u ceir ar bob gyfandir ar wahân i'r Antarctig.
Creir cryn amrywiaeth rhwng aelodau'r urdd hon, o ran gwneuthuriad ffisegol.[2] Fel arfer, nid oes ganddynt ddail. Ond ceir rhai genera, fel y Fossombronia, a Symphyogyna sydd a strwythur a elwir yn "hanner deiliog", a chanddynt thalws llabedog iawn, ac sy'n edrych fel dail. Mae gan y genws Phyllothallia, fodd bynnag, barau o labedau (meinweoedd) wedi'u gosod yn rheolaidd ar goesyn canolog.[3] Nid yw'r grwpiau o rywogaethau hanner-deiliog yn perthyn yn agos i'w gilydd o gwbwl, a'r ddamcaniaeth ddiweddaraf (2010au) yw iddynt esblygu ar wahân.[4]
Mae aelodau urdd y Metzgeriales yn wahanol i'w perthnasau o fewn urdd y Jungermanniales gan fod eu archegonia (strwythurau atgenhedlu benywaidd) wedi'u lleoli mewn man gwahanol. Mae'r archegonia, hefyd, yn datblygu o'r gell brigol (neu 'apigol') ar frig y gangen ffrwythlon.[5] O ganlyniad, mae'r strwythurau atgenhedlu benywaidd wastad i'w gweld ar ran cefnol arwynebau'r planhigyn.[5][6]
Urdd o lysiau'r afu yw Metzgeriales a gaif weithiau ei alw'n "urdd y thaloid syml", gan nad oes gan rywogaethau'r grŵp fawr o strwythur iddynt. Fel arfer nid oes ganddynt goesyn na dail. Fe'i gelwir yn "syml" gan fod eu meinwe'n denau ac heb fawr o wahaniaeth rhyngddynt; mae rhai rhywogaethau mor denau nes eu bod yn dryleu.
Mae gan bob aelod o'r grŵp hwn gyfnod gametoffyt a chyfnod byrach pan mae'r sborau'n aeddfed. Maent wedi eu dosbarthu'n bur eang, er eu bod wedi eu cyfyngu i ardaloedd o leithder uchel, neu gynefinoedd llaith. Yn wir, fe'u ceir ar bob gyfandir ar wahân i'r Antarctig.
Noteroclada, un o'r rhywogaethau sydd â dail.