Genws o gonwydd yn nheulu'r Pinaceae yw'r pinwydd (Pinus). Mae ganddynt ddail llinynaidd a chul, o liw gwyrdd tywyll. Tyfant y coed hyn, fel rheol, yn sypiau gyda'i gilydd, mewn ardaloedd mynyddig a lleoedd agored ar draws hemisffer y gogledd. Mae rhai rhywogaethau yn tyfu ar dir isel, ac mewn tiroedd tywodlyd a digynnyrch, yn enwedig yng Ngogledd America. Pinwydd bychain, yn debycach i brysgwydd na choed, sydd yn tyfu yn yr hinsoddau oeraf.
Pinwydden yr Alban yw'r unig rywogaeth sydd yn gynhenid i Brydain.