dcsimg

Aderyn drycin du ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Aderyn drycin du (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar drycin duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Puffinus griseus; yr enw Saesneg arno yw Sooty shearwater. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae) sydd yn urdd y Procellariformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. griseus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae tua 40–51 cm o hyd a 94–19 cm ar draws yr adenydd. Nid yw'n hollol ddu o ran lliw, ond mae'n dywyllach na'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau eraill o aderyn-drycin. Mae'n nythu ar ynysoedd yn rhan ddeheuol y Cefnfor Tawel, yn arbennig o gwmpas Seland Newydd, Ynysoedd y Falkland a Tierra del Fuego. Wedi gorffen magu'r cywion, mae'r adar yn symud tua'r gogledd, ar hyd ochr orllewinol y Cefnfor Tawel a Chefnfor Iwerydd. Wedi cyrraedd cyn belled a'r Arctig, maent yn troi tua'r dwyrain ac yna tua'r de, gan ddychwelyd i'r ynysoedd lle maent yn nythu wedi gwneud cylchdaith enfawr.

Gellir gweld ambell un oddi ar arfordir Cynru yn yr hydref, er nad yw'n aderyn cyffredin yma.

Fe'i ceir yn aml ar lan y môr.

Teulu

Mae'r aderyn drycin du yn perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Pedryn Cynffon-fforchog Oceanodroma leucorhoa Pedryn drycin Hydrobates pelagicus
Hydrobates pelagicus.jpg
Pedryn drycin cynffonfforchog Oceanodroma furcata
Oceanodroma furcata 1.jpg
Pedryn drycin du Oceanodroma melania
BlackStormPetrels.JPG
Pedryn drycin gyddfwyn Nesofregetta fuliginosa Pedryn drycin Madeira Oceanodroma castro
Band rumped storm petrel Andre Raine KESRP (21789178016).jpg
Pedryn drycin Matsudaira Oceanodroma matsudairae
012016-IMG 5713 Matsudaira's Storm-Petrel (Oceanodroma matsudairae) (8005427860).jpg
Pedryn drycin torchog Oceanodroma hornbyi
Hornby storm petrel1a.jpg
Pedryn drycin Tristram Oceanodroma tristrami
Tristams storm petrel.JPG
Pedryn drycin tywyll Oceanodroma markhami
MarkhamSP.jpeg
Pedryn drycin wynebwyn Pelagodroma marina
Godmanstormlg.jpg
Pedryn drycin y Galapagos Oceanodroma tethys
Galapagos storm petrel.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Aderyn drycin du: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Aderyn drycin du (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar drycin duon) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Puffinus griseus; yr enw Saesneg arno yw Sooty shearwater. Mae'n perthyn i deulu'r Pedrynnod (Lladin: Procellariidae) sydd yn urdd y Procellariformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. griseus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Ewrop, Affrica ac Awstralia.