dcsimg

Swrcod ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Mae'r swrcod (Lladin: Scoliopteryx libatrix) yn wyfyn yn y teulu Noctuidae. Mae'r teulu'n cynnwys tua 35,000 o rywogaethau, mwy nag unrhyw deulu arall yn y Lepidoptera. Mae lled ei adennydd agored tua 44 mm.


Mae cyfnod hedfan yr herald rhwng Mehefin a Tachwedd. Yn ystod y gaeaf, bydd y gwyfynod yn gaeafgysgu mewn llefydd tywyll, oer (ee celeri, ysguboriau ac ogofâu), gan ddychwelyd i hedfan eto o fis Mawrth i fis Mehefin. Ei gynefin yw parciau a gerddi coetiroedd, ac (efallai o ganlyniad) mae'r adain pan fo'n gorffwys yn debyg i ddeilen wyw wedi crebachu.

Mae lindys yr herald yn wyrdd llachar sy'n gyffredin i lawer o lindys. Maent yn cael eu adnabod gan y llinellau melyn tenau ac amlwg sy'n rhedeg ar draws y corff rhwng segmentau. Pan fo'n oedolyn, maen nhw'n clymu eu hunain rhwng dwy ddeilen ac yn troi'n chwiler (cocwn) gwyn.

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY