Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn corn carw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod corn carw; yr enw Saesneg yw Antler Moth, a'r enw gwyddonol yw Cerapteryx graminis.[1][2] Fe'i canfyddir drwy'r rhan fwyaf o Ewrop.
27–32 mm yw lled adenydd y fenyw a'r gwryw yn 35–39 mm; mae nhw i'w cael yn hedfan rhwng Mehefin a Medi yn ystod y dydd pan fo hi'n gynnes yn ogystal ag yn y nos. Mae'r gwyfyn corn carw'n cael ei ddenu at olau, fin nos. Mae'r siani flewog lwyd yn hoff iawn o weiriau megis: Deschampsia, Festuca a Nardus.
Mae poblogaeth y gwyfyn hwn mewn rhai blynyddoedd yn gallu bod yn blagus:
It may be of interest to record that larvae identified by Mr. W. Mansbridge, F.R.E.S., who was kind enough to examine a specimen I sent to him, as the Noctuid moth Cerapteryx (Charaeas) graminis [gwyfyn corn carw] were disgorged in large quantities by young Herring-Gulls ... on June 18th, 24th, and 29th, 1936, on Puffin Island, Anglesey. With few exceptions the young birds appeared to have been fed exclusively on these larvae, and at a rough estimate I should say that from 50, to 150 were disgorged at a time.[3]
..in the grass at either side. They were present in very large numbers all the way down to the flat area between Drosgl and Gyrn [Carneddau]. There must have been literally tens of thousands in the area we were in - there would have been millions if they were present in the same numbers more than a few feet away from the path. Description: Different sizes, between about 1cm and 2.5 cm long but not very fat. Not hairy. Fairly non-descript in appearance, darkish browny grey.... [4]
Dengys y graff gyfanswm blynyddol y gwyfynod corn carw a ddaliodd Duncan Brown yn ei drap mewn gwahanol fannau yng Nghymru (yn ei ardd yn Waunfawr ac yn Abergwyngregyn gan mwyaf) ers 1996. Sylwch ar y cynnydd yn 2007 (blwyddyn pla JB a, gyda llaw, blwyddyn cynhesaf erioed yn fyd eang hyd hynny), a llwyddiant ysgubol y gwyfyn y flwyddyn ganlynol, yn 2008. Roedd 2010 yn flwyddyn dda i’r corn carw hefyd.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn corn carw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn corn carw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod corn carw; yr enw Saesneg yw Antler Moth, a'r enw gwyddonol yw Cerapteryx graminis. Fe'i canfyddir drwy'r rhan fwyaf o Ewrop.
27–32 mm yw lled adenydd y fenyw a'r gwryw yn 35–39 mm; mae nhw i'w cael yn hedfan rhwng Mehefin a Medi yn ystod y dydd pan fo hi'n gynnes yn ogystal ag yn y nos. Mae'r gwyfyn corn carw'n cael ei ddenu at olau, fin nos. Mae'r siani flewog lwyd yn hoff iawn o weiriau megis: Deschampsia, Festuca a Nardus.