Genws o ffwng corff hadol yn nheulu'r Hygrophoraceae yw'r Capiau cwyr (Lladin: Hygrocybe; Saesneg: waxcaps). Maen nhw'n lliwgar iawn fel arfer a chanddynt gapiau sgleiniog fel cwyr, gyda golwg seimllyd, sborau gwyn a bonion llyfn heb gylchoedd arnyn nhw. Yn Ewrop maent i'w canfod ar dir sâl, diffrwyth a gwelltiroedd heb eu datblygu, ond mae'r cynefinoedd hyn yn prinhau ac mae pryder am ddyfodol y capiau cwyr. Ar y ddaear mae'r rhan fwyaf i'w cael a chysylltir nhw efo mwsogl. Credir bod tua 150 ohonynt i gyd drwy'r byd.
Mae rhannau o rai rhywogaethau'n fwytadwy gan bobl a gwerthir nifer ohonynt mewn marchnadoedd.
Rhestr Wicidata:
Rhywogaeth Enw gwyddonol DelweddGenws o ffwng corff hadol yn nheulu'r Hygrophoraceae yw'r Capiau cwyr (Lladin: Hygrocybe; Saesneg: waxcaps). Maen nhw'n lliwgar iawn fel arfer a chanddynt gapiau sgleiniog fel cwyr, gyda golwg seimllyd, sborau gwyn a bonion llyfn heb gylchoedd arnyn nhw. Yn Ewrop maent i'w canfod ar dir sâl, diffrwyth a gwelltiroedd heb eu datblygu, ond mae'r cynefinoedd hyn yn prinhau ac mae pryder am ddyfodol y capiau cwyr. Ar y ddaear mae'r rhan fwyaf i'w cael a chysylltir nhw efo mwsogl. Credir bod tua 150 ohonynt i gyd drwy'r byd.
Mae rhannau o rai rhywogaethau'n fwytadwy gan bobl a gwerthir nifer ohonynt mewn marchnadoedd.