Aderyn mawr o ynys Mawrisiws yng Nghefnfor India oedd y Dodo (Raphus cucullatus). Roedd ganddo gorff swmpus, coesau byr a phig bachog hir. Ni allodd hedfan oherwydd ei adenydd bach.
Cofnodwyd y dodo am y tro cyntaf ym 1598 gan forwyr Iseldiraidd.[1] Cafodd yr oedolion eu gor-hela gan forwyr a chafodd yr wyau a'r cywion eu bwyta gan foch, mwncïod a llygod mawr. Diflannodd yr adar olaf yn ystod ail hanner yr 17g.[1]
Aderyn mawr o ynys Mawrisiws yng Nghefnfor India oedd y Dodo (Raphus cucullatus). Roedd ganddo gorff swmpus, coesau byr a phig bachog hir. Ni allodd hedfan oherwydd ei adenydd bach.
Cofnodwyd y dodo am y tro cyntaf ym 1598 gan forwyr Iseldiraidd. Cafodd yr oedolion eu gor-hela gan forwyr a chafodd yr wyau a'r cywion eu bwyta gan foch, mwncïod a llygod mawr. Diflannodd yr adar olaf yn ystod ail hanner yr 17g.