Teulu o bryfaid yw Aeshnidae, sy'n cynnwys nifer o wahanol fathau o weision neidr, a'r mathau mwyaf ohonynt yng ngogledd America a thrwy Ewrop. Yn y teulu hwn hefyd y ceir y gweision neidr (a'r mursennod) cyflymaf ar wyneb y ddaear.
Disgrifiad
Mae'r ddau genera Aeshna ac Anax i'w canfod ledled y ddaear, bron. Y mwyaf o'r cwbwl yw'r Anax tristis Affricanaidd, sydd a lled adenydd o 125 mm.
Paru
Aeshna sp., llyn ger Stanley, Idaho.
Mae'r gweision neidr hyn yn paru wrth hedfan. Yn y dŵr mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau, neu'n eithaf agos at ddŵr. Mae'r oedolion ifanc yn deneuach na'r rhelyw o weision o deuluoedd eraill, gyda is-wefus hirach na'r cyffredin. Oddi fewn i'r dŵr mae nhw'n byw ac yn bod, yn tyfu ac yn bwyta pryfaid eraill ac ambell bysgodyn bychan iawn.
Treulia'r oedolyn y rhan fwyaf o amser yn yr awyr gyda'u pedair asgell cryf - a hynny'n ddiflino ac amser hir. Gallant hedfan ymlaen ac yn ôl, neu hofran fel hofrenydd yn yr un lle. Mae'r adenydd yn ymestyn yn llorweddol ar bob achlysur.
Genera
-
Acanthaeschna Selys, 1883
-
Adversaeschna Watson, 1992
-
Aeschnophlebia Selys, 1883
-
Aeshna Fabricius, 1775
-
Afroaeschna Peters & Theischinger, 2011
-
Agyrtacantha Lieftinck, 1937
-
Allopetalia Selys, 1873
-
Amphiaeschna Selys, 1871
-
Anaciaeschna Selys, 1878
-
Anax Leach, 1815
-
Andaeschna De Marmels, 1994
-
Antipodophlebia Fraser, 1960
-
Austroaeschna Selys, 1883
-
Austrogyncantha Tillyard, 1908
-
Austrophlebia Tillyard, 1916
-
Basiaeschna Selys, 1883
-
Boyeria McLachlan, 1895
-
Brachytron Evans, 1845
-
Caliaeschna Selys, 1883
-
Castoraeschna Calvert, 1952
-
Cephalaeschna Selys, 1883
-
Coryphaeschna Williamson, 1903
-
Dendroaeschna Tillyard, 1916
-
Dromaeschna Förster, 1908
-
Epiaeschna Hagen in Selys, 1883
-
Gomphaeschna Selys, 1871
-
Gynacantha Rambur, 1842
-
Gynacanthaeschna Fraser, 1921
-
Heliaeschna Selys, 1882
-
Indaeschna Fraser, 1926
-
Limnetron Förster, 1907
-
Linaeschna Martin, 1908
-
Nasiaeschna Selys in Förster, 1907
-
Neuraeschna Hagen, 1867
-
Notoaeschna Tillyard, 1916
-
Oligoaeschna Selys, 1889
-
Oplonaeschna Selys, 1883
-
Oreaeschna Lieftinck, 1937
-
Periaeschna Martin, 1908
-
Petaliaeschna Fraser, 1927
-
Pinheyschna Peters & Theischinger, 2011
-
Planaeschna McLachlan, 1896
-
Plattycantha Förster, 1908
-
Polycanthagyna Fraser, 1933
-
Racenaeschna Calvert, 1958
-
Remartinia Navás, 1911
-
Rhionaeschna Förster, 1909
-
Sarasaeschna Karube & Yeh, 2001
-
Spinaeschna Theischinger, 1982
-
Staurophlebia Brauer, 1865
-
Telephlebia Selys, 1883
-
Tetracanthagyna Selys, 1883
-
Triacanthagyna Selys, 1883
-
Zosteraeschna Peter & Theischinger, 2011
Cyfeiriadau
Silsby, Jill. 2001. Dragonflies of the World. Smithsonian Institution Press, Washington D.C.
Dolennau allanol