dcsimg

Cnocell werdd ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell werdd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau gwyrddion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picus viridis; yr enw Saesneg arno yw Green woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain gan gynnwys yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. viridis, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Cnocell weddol fawr o ran maint yw'r Gnocell Werdd, tua 30–36 cm o hyd a 45–51 cm ar draws yr adenydd. Fel yr awgryma'r enw, aderyn gwyrdd ydyw, gyda gwyrdd-felyn goleuach ar y bol. Mae'n byw mewn coedwigoedd bychain gyda gwrychoedd a thir agored gerllaw; ac mae poblogaeth dda o forgrug yn bwysig iddo. I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal, twll mwy na'r rhan fwyaf o'r cnocellod eraill.

Ceir niferoedd sylweddol o'r gnocell yma yng Nghymru, er ei fod yn llai cyffredin na'r Gnocell Fraith Fwyaf.

 src=
Dosbarthiad y Gnocell Werdd
 src=
Picus viridis


Teulu

Mae'r cnocell werdd yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cnocell fraith Japan Yungipicus kizuki Cnocell gorunfrown Yungipicus moluccensis
Sunda pygmy woodpecker (Dendrocopos moluccensis) - Flickr - Lip Kee.jpg
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
Male of Dendrocopos temminckii.JPG
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY

Cnocell werdd: Brief Summary ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell werdd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau gwyrddion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picus viridis; yr enw Saesneg arno yw Green woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain gan gynnwys yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. viridis, sef enw'r rhywogaeth.

Cnocell weddol fawr o ran maint yw'r Gnocell Werdd, tua 30–36 cm o hyd a 45–51 cm ar draws yr adenydd. Fel yr awgryma'r enw, aderyn gwyrdd ydyw, gyda gwyrdd-felyn goleuach ar y bol. Mae'n byw mewn coedwigoedd bychain gyda gwrychoedd a thir agored gerllaw; ac mae poblogaeth dda o forgrug yn bwysig iddo. I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal, twll mwy na'r rhan fwyaf o'r cnocellod eraill.

Ceir niferoedd sylweddol o'r gnocell yma yng Nghymru, er ei fod yn llai cyffredin na'r Gnocell Fraith Fwyaf.

 src= Dosbarthiad y Gnocell Werdd  src= Picus viridis


lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY