Mae lyncs yn aelod o un o'r pedair rhywogaeth o gath o faint canolig sy'n perthyn i'r genws Lynx.
Mae gan y lyncs gynffon fer, a thuswau nodweddiadol o wallt du ar flaenau'r clustiau. Y lyncs (lluosog: lyncsod) yw un o'r pedair rhywogaeth y genws Lynx, cathod gwyllt cymedrol eu maint. Tardda'r enw o'r Saesneg Canol trwy'r gair Groeg λύγξ,[1] o'r gwreiddyn Indo-Europeaidd leuk- ("golau, disgleirdeb"), cyfeiriad at ymoleuedd ei lygaid adlewyrchol.[2]. Mae'r erthygl hon yn ymdrin yn bennaf â'r lyncs Ewrasaidd, sef y rhywogaeth a fu'n gynhenid i Gymru ar un adeg.
Mae gan y lyncs gynffon fer, siobynnau nodweddiadol o flew duon ar flaenau ei glustiau, pawennau wedi eu clustogi ar gyfer cerdded ar eira, a wisgers ar yr wyneb. Mae crychdorch o dan y gwddf gyda bariau, weithiau'n ymdebygu i dei-bo. Mae lliw y corff yn amrywio'n frown cymedrol i led-wyn, weithiau wedi ei farcio â brychni brown tywyll, yn enwedig ar y coesau. Mae'r nodweddion hyn oll yn amrywio'n fawr yn ôl hinsawdd eu cynefin. Rhywogaethau lleiaf y genws yw'r fobgath a lyncs Canada, a'r mwyaf yw lyncs Ewrasia[3].
Y pedair rhywogaeth o lyncs Rhywogaeth Pwysau Hyd Uchder (i'r ysgwyddau) Lyncs EwrasiaiddMae'r lyncs fel arfer yn anifail sy'n cadw ei gwmni ei hun, er y gall minteion bychain ohonynt weithiau gyd-hela. Bydd cymaru yn digwydd yn y gaeaf hwyr ac mae'r fenyw yn esgor ar un i bedwar cathan ar ôl cyfebru am 70 niwrnod. Erys y bychain gyda'r fam am aeaf arall, sef naw mis, cyn mynd ar ddisberod fel oedolion ieuanc. Fe grea'r lyncs ei ffau mewn agennau neu o dan silffoedd mewn creigfannau. Bwyta amrediad eang o anifeiliaid, gan gynnwys yng Nghymru ddeiet dybiedig o iyrchod, ceirw cochion, ysgyfarnogod, pysgod, llwynogod, defaid a geifr, gwiwerod cochion, llygod a llygod pengron, grugieir ac adar eraill.
Mae'r lyncs yn mynychu fforestydd mynyddig gyda llysdyfiant trwchus o lwyni, hesg a gwair tal. Er bod y gath hon yn hela ar y ddaear, gall ddringo coed a nofio'n gyflym, gan ddal pysgod. Cychwynnwyd amryw brosiectau i ail-sefydlu lyncsod yn eu cynefinoedd hynafol, a bu rhain yn llwyddiannus mewn amryw ardaloedd yn y Swisdir. Ers yr 1990au ymdrechwyd droeon i'w hailsefydlu yn yr Almaen ac ers 2000 ceir poblogaeth fechan ym mynyddoedd yr Hartz ger Bad Lauterberg.
Mae'r lyncs yn fwy cyffredin yng ngogledd Ewrop na'r rhelyw o wledydd, yn enwedig yn Norwy, Sweden, Estonia, Y Ffindir a pharthau gogleddol Rwsia. Amcangyfrifir y boblogaeth Swedaidd yn 1200-1500 unigolyn, a phoblogaeth y Ffindir yn 1900-2100, lle bu'r niferoedd yn cynyddu'n flynyddol ers 1992. Ystyrir y boblogaeth yn y Ffindir yn fwy bellach nag a fu erioed. Difawyd poblogaeth gwledydd Prydain yn yr 17eg ganrif, ond bu galwadau am ei hail-sefydlu i reoli niferoedd ceirw.[4][5] .
Nid oes amheuaeth am bresenoldeb y lyncs fel anifail gwyllt ym Mhrydain, ac felly yn ôl pob tyb, yng Nghymru, yn y cyfnod ôl-rewlifol a chyn-hanesyddol. Ym Mhrydain ystyrid y lyncs Ewrasiaidd fel anifail o Epoc y Pleistosen ond a fethodd a chyrraedd yr Holosen. Erbyn hyn fe wyddom fod hyn yn gwbl anghywir. Gwyddom i'r lyncs fyw yn Lloegr a de Iwerddon mor ddiweddar â 9000 o flynyddoedd cyn y presennol. Cafwyd sbesimenau o Ddyfnaint ac o Swydd Derby a ddarganfuwyd trwy ddull Dyddio Carbon yn dyddio o 8800-9500 flynyddoedd yn ôl).[6] Nid oes rheswm i amau felly bod yr anifail hefyd yn troedio tir Cymru yn ogystal. Fodd bynnag, yn 1997 daeth y newyddion syfrdanol ar y pryd bod lyncsod Ewrasaidd wedi goroesi yn yr Alban hyd mor ddiweddar a'r 3edd ganrif AD.[7]
Ymddengys erbyn hyn bod ffynonellau Cymraeg eu hiaith yn dyfod a hanes y lyncs fwyfwy i'r presennol, yn gyntaf i 8ed ganrif yr Hen Ogledd, (de'r Alban neu Gymbria heddiw), ac wedyn, mor ddiweddar a'r 15g., i ogledd Cymru. Mae'r hwiangerdd enwog Pais Dinogad yng nghorff y gerdd arwrol, treisgar a gwaedlyd Y Gododdin, yn cyfeirio at lew ac at 'llewyn':
Mae'r ffynhonnell fwy diweddar yn fwy pendant. Mae David Hetherington yn ecolegydd sydd yn ymchwilio i hanes y lyncs ym Mhrydain.[9] Darganfu gyfeiriad mewn cywydd gan y bardd o'r 15g Dafydd Nanmor at llew brych. Anodd yw credu meddai, i'r fath derm (speckled lion iddo fe) olygu dim arall ond lyncs.[10]. Dyma ran o'r cywydd hwn yn clodfori'r uchelwr Rhys ap Rhydderch ap Rhys o’r Tywyn:
Diystyriodd Raye y posibilrwydd mai lyncs oedd 'llew brych'[11] gan i bapur Norwyaidd ddweud nad yw lyncsod yn dilyn ceirw mudol. Ystyriai hefyd ffynhonnell o'r 15g. yn rhy ddiweddar. Barn Hetherington ar yr amseriad fodd bynnag yw, gan y bu lyncsod yn eitha lluosog yn ardaloedd mynyddig amhoblog Ewrop hyd canol y 19g. pam nad felly ym Mhrydain. Yn ychwanegol, nid yw lyncsod yn dilyn llysyswyr fel ceirw i'r mynyddoedd yn yr haf yn cyfrif fel ymfudo yn gymaint â symud syml ychydig fetrau i'r uchelderau wrth iddynt fanteisio ar borfa ir a ffres. Mae'n sefyll i reswm, meddai Hetherington, y byddai lyncsod yn ffocysu eu gweithgaredd ar y rhannau o'u libart lle ceir prae addas. Ychwanega: "To my non-Welsh reading eyes, I'd struggle to explain what else a 'speckled lion' would be!" a bod William Harrison, yn ysgrifennu yn y 1570au yn disgrifio sut y bu ar un adeg "many lions" ym mharthau gogleddol yr Alban, ond ni chlyw neb amdanynt mwy.
Cyfyd y cwestiwn erbyn hyn ai lyncs oedd pob "llew" neu "lion" ym marddoniaeth gynnar y canoloesedd? "Llew bychan" fyddai llewyn mewn Cymraeg modern wrth gwrs (gw. Pais Dinogad uchod). Gallai tarddiad "llew" fod o'r Lladin leo (dehongliad nad yw heb ei broblemau - sut oedd bardd Pais Dinogad yn gwybod am lew yn yr 8g.?) neu, yn ôl yr ysgolhaig Adrian Price, o lugh, sef lyncs yn yr Hen Aeleg (cyn AD900) ac yn gytras a geiriau yn golygu golau pefriol (hy. golau llygaid y lyncs, sef union etymoleg y gair lyncs ei hun). Mae'n werth efallai cyfeirio at Lleu, lleufer, lleuad yn y cyswllt hwn[12].
Mae'r lyncs yn anifail cenedlaethol i Weriniaeth Macedonia[13][14] ac fe'i dangosir ar du ôl y darn arian 5 denar.[15]. Mae'n anifail cenedlaethol Romania hefyd[16].
Mae lyncs yn aelod o un o'r pedair rhywogaeth o gath o faint canolig sy'n perthyn i'r genws Lynx.