Llysieuyn cyffredin sy'n perthyn i deulu'r codwarth (Lladin: Solanaceae; Saesneg: nightshades[1][2]) yw tomato. Mae ei ffrwythau coch yn fwytadwy ac ar gael ledled y byd heddiw. Mae'n cael ei gynnwys mewn amrywiaeth eang o fwyd a diod gan gynnig saws, pitsas neu'n amrwd mewn salad. Mae'n frodorol o Ganol a Dde America, a cheir tystiolaeth i'r tomato gael ei ddefnyddio fel bwyd am y tro cyntaf yn Mecsico.
Ceir sawl math o domato, ac mewn gwledydd tymheredd cŵl, fe'i tyfir yn y tŷ gwydr. Yn gyffredin, gall dyfu i uchder o 1–3 metr (3–10 tr) gyda bonyn gwan; oherwydd hyn, ar adegau, mae'r planhigyn yn 'cropian' ar y ddaear, yn aml dros blanhigion eraill. Mae'n blanhigyn lluosflwydd, parhaol yn ei ardaloedd brodorol, ond mewn gwledydd oerach gall fod yn flodyn unflwydd. Ar gyfartaledd mae ei ffrwyth yn pwyso oddeutu 100 gram (4 owns).[3][4]
Tarddiad y gair yw tomatl, un o eiriau'r iaith Nahwatleg, sef un o ieithoedd yr Asteciaid. Fe'i benthyciwyd i'r Sbaeneg, ac yn ei dro, i'r Saesneg, ac oddi yno i'r Gymraeg. Ymddangosodd mewn print yn gyntaf yn 1595.[5]
Ystyr yr enw gwyddonol amdano, lycopersicum, yw 'eirinen flewog y bleiddiaid'.
Defnyddir ffrwyth coch y tomato gan gogyddion fel llysieuyn, fel arfer, e.e. mewn saws gyda chig. O ran botaneg a gwyddoniaeth y planhigyn, fodd bynnag, oherwydd fod ynddo hadau, ffrwyth ydyw, sy'n debycach i'r banana a'r afal nag ydyw i foronen neu feipen.
Llysieuyn cyffredin sy'n perthyn i deulu'r codwarth (Lladin: Solanaceae; Saesneg: nightshades) yw tomato. Mae ei ffrwythau coch yn fwytadwy ac ar gael ledled y byd heddiw. Mae'n cael ei gynnwys mewn amrywiaeth eang o fwyd a diod gan gynnig saws, pitsas neu'n amrwd mewn salad. Mae'n frodorol o Ganol a Dde America, a cheir tystiolaeth i'r tomato gael ei ddefnyddio fel bwyd am y tro cyntaf yn Mecsico.
Ceir sawl math o domato, ac mewn gwledydd tymheredd cŵl, fe'i tyfir yn y tŷ gwydr. Yn gyffredin, gall dyfu i uchder o 1–3 metr (3–10 tr) gyda bonyn gwan; oherwydd hyn, ar adegau, mae'r planhigyn yn 'cropian' ar y ddaear, yn aml dros blanhigion eraill. Mae'n blanhigyn lluosflwydd, parhaol yn ei ardaloedd brodorol, ond mewn gwledydd oerach gall fod yn flodyn unflwydd. Ar gyfartaledd mae ei ffrwyth yn pwyso oddeutu 100 gram (4 owns).