Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys danheddog (enw gwyddonol: Drepanolejeunea hamatifolia; enw Saesneg: toothed pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngwynedd ac ardaloedd gorllweinol yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.
Mae gan y Llychlys danheddog (D. hamatifolia) goesynnau gwyrdd golau, hyd at 1 cm o hyd a 0.2–0.4 mm o led. Mae'r dail yn cyrraedd pwynt miniog a danheddog (h.y. fel dannedd), gyda'r llabedau'n ymrannu, ond mor fach mae eu rhoi o dan feicrosgop yn hanfodol.[1]
Tyf y rhywogaeth hon mewnleoedd llaith, mewn ardaloedd cefnforol, ger rhaeadrau neu mewn ceunentydd coediog. Mae'n yn tyfu ar greigiau a choed, naill ai ymysg bryoffytau eraill neu mewn mannau clir, ond fel arfer mae wedi'i gyfyngu i greigiau.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.