Bedwen yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer unrhyw goeden o'r genws Betula, sy'n aelod o'r teulu Betulaceae, ac yn perthyn yn agos i deulu'r derw, Fagaceae. Maent yn goed gweddol fychan fel rheol, ac yn tyfu mewn rhannau gogleddol o Ogledd America, Ewrop ac Asia. Y fedwen yw coeden genedlaethol Rwsia.
Y rhywogaeth fwyaf adnabyddus yw'r Fedwen Arian (Betula pendula), sy'n tynnu sylw oherwydd lliw y rhisgl.