Dosbarth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn yw arachnidau. Mae mwy na 100,000 o rywogaethau gan gynnwys corynnod, sgorpionau, ceirw'r gwellt, trogod a gwiddon. Mae gan arachnidau wyth o goesau, ond does ganddyn nhw ddim teimlyddion nac adenydd.