dcsimg

Troellwr mawr ( Galce )

wikipedia CY tarafından sağlandı

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Troellwr mawr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: troellwyr mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Caprimulgus europaeus; yr enw Saesneg arno yw European nightjar. Mae'n perthyn i deulu'r Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae) sydd yn urdd y Caprimulgiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. europaeus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

Daw'r enw o'i gân, sy'n sŵn tebyg i sŵn tröell hen-ffasiwn.

Aderyn mudol yw'r Troellwr Mawr, yn cyrraedd cyn diwedd Ebrill neu ddechrau Mai. Treulia'r gaeaf yn Affrica. Fe'i ceir ar dir agored, yn aml yn nythu mewn llannerch o fewn coedwig neu gerllaw i goedwig. Fel rheol, mae'n dechrau hedfan i hela pryfed wedi i'r haul fachlud.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.

 src=
Dosbarthiad y Troellwr Mawr. Oren: nythu, Glas: gaeafu
 src=
Caprimulgus europaeus

Teulu

Mae'r troellwr mawr yn perthyn i deulu'r Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cudylldroellwr bach Chordeiles acutipennis Cudylldroellwr bychan Chordeiles pusillus
Bacurauzinho.jpg
Cudylldroellwr cynffonresog Nyctiprogne leucopyga
Nyctiprogne leucopyga from Spix 1825.jpg
Cudylldroellwr gwelw Chordeiles rupestris
Chordeiles rupestris -Ucayali Region, Peru-8.jpg
Cudylldroellwr mawr Chordeiles nacunda
Nacunda nighthawk.jpg
Cudylldroellwr torchog Lurocalis semitorquatus
LurocalisSemitorquatusGray.jpg
Cudylldroellwr torgoch Lurocalis rufiventris
Rufous-bellied Nighthawk.jpg
Cudylldroellwr y Caribî Chordeiles gundlachii
Antillean Nighthawk From The Crossley ID Guide Eastern Birds.jpg
Troellwr Archbold Eurostopodus archboldi Troellwr cythreulig Eurostopodus diabolicus Troellwr gyddfwyn Eurostopodus mystacalis
White-throated nightjar kobble.jpg
Troellwr mannog Eurostopodus argus
Eurostopodus argus 2 - Christopher Watson.jpg
Troellwr Papwa Eurostopodus papuensis
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
lisans
cc-by-sa-3.0
telif hakkı
Awduron a golygyddion Wikipedia
orijinal
kaynağı ziyaret et
ortak site
wikipedia CY

Troellwr mawr: Brief Summary ( Galce )

wikipedia CY tarafından sağlandı

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Troellwr mawr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: troellwyr mawrion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Caprimulgus europaeus; yr enw Saesneg arno yw European nightjar. Mae'n perthyn i deulu'r Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae) sydd yn urdd y Caprimulgiformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. europaeus, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

Daw'r enw o'i gân, sy'n sŵn tebyg i sŵn tröell hen-ffasiwn.

Aderyn mudol yw'r Troellwr Mawr, yn cyrraedd cyn diwedd Ebrill neu ddechrau Mai. Treulia'r gaeaf yn Affrica. Fe'i ceir ar dir agored, yn aml yn nythu mewn llannerch o fewn coedwig neu gerllaw i goedwig. Fel rheol, mae'n dechrau hedfan i hela pryfed wedi i'r haul fachlud.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.

 src= Dosbarthiad y Troellwr Mawr. Oren: nythu, Glas: gaeafu  src= Caprimulgus europaeus
lisans
cc-by-sa-3.0
telif hakkı
Awduron a golygyddion Wikipedia
orijinal
kaynağı ziyaret et
ortak site
wikipedia CY