Anifail sy'n byw yng ngorllewin a chanolbarth Affrica yw Tsimpansî. Mae dwy rywogaeth hominid ohonynt ac maent yn aelodau o deulu'r epaod yn y genws Pan. Mae'r Afon Congo'n gwahanu'r ddwy rywogaeth:[1]
Mae'r Tsimpansî'n aelod o deulu'r Hominidae, ynghyd â bodau dynol, gorilas ac orangutangs. Cawsant eu hollti o linell y bod dynol oddeutu chwe miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Yr is-lwyth Panina yw perthynas agosaf bodau dynol ac mae'r ddau'n aelodau o'r llwyth Hominini. Dim ond y tsimpansî sydd yn yr is-lwyth Pamina, hyd y gwyddom.
Holltwyd y ddwy rywogaeth: y bonobo a'r tsimpansî oddi wrth ei gilydd tua miliwn o flynyddoedd CP.
Cofnodwyd yr enw "Chimpanze" am y tro cyntaf yn y cylchgrawn The London Magazine a hynny yn 1738,[2] a chredir iddo olygu "Mockman" yn iaith pobl o Angola (Ieithoedd Bantu o bosib), ac mae'n air o fewn yr iaith H Bantu: ci-mpenzi[3]). Ugain mlynedd wedyn fe'i sillafwyd fel Chimpanzee yn Cyclopædia, or an Universal Dictionary of Arts and Sciences.[4] Defnyddiwyd y bachigyn "chimp" am y tro cyntaf tua'r 1870au.[5]
Anifail sy'n byw yng ngorllewin a chanolbarth Affrica yw Tsimpansî. Mae dwy rywogaeth hominid ohonynt ac maent yn aelodau o deulu'r epaod yn y genws Pan. Mae'r Afon Congo'n gwahanu'r ddwy rywogaeth:
Tsimpansî cyffredin, Pan troglodytes (Gorllewin Affrica a Chanol Affrica) Bonobo, Pan paniscus (fforestydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo)Mae'r Tsimpansî'n aelod o deulu'r Hominidae, ynghyd â bodau dynol, gorilas ac orangutangs. Cawsant eu hollti o linell y bod dynol oddeutu chwe miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Yr is-lwyth Panina yw perthynas agosaf bodau dynol ac mae'r ddau'n aelodau o'r llwyth Hominini. Dim ond y tsimpansî sydd yn yr is-lwyth Pamina, hyd y gwyddom.
Holltwyd y ddwy rywogaeth: y bonobo a'r tsimpansî oddi wrth ei gilydd tua miliwn o flynyddoedd CP.