dcsimg

Afonfarch ( Galce )

wikipedia CY tarafından sağlandı

Mamal yn perthyn i'r teulu Hippopotamidae yw'r afonfarch neu'r dyfrfarch (Hippopotamus amphibius, o'r Roeg: 'ιπποπόταμος, hippopotamos). Yr unig aelod arall o'r teulu yw'r Afonfarch Bach.

Ceir yr Afonfarch yn Affrica i'r de o'r Sahara yn unig, ac mae wedi diflannu o lawer o diriogaethau yno. Mae'n byw o gwmpas afonydd a llynnoedd mewn grwpiau o hyd at 40 anifail, gan aros yn y dŵr yn ystod y dydd a dod allan i fwydo ar blanhigion yn y nos.

Ceir rhwng 125,000 a 150,000 ohonynt i gyd, y nifer fwyaf yn Sambia (40,000) a Thansanïa (20,000-30,000).

Filoedd o flynyddoedd yn ôl, cyn i'r hinsawdd newid, roedd afonfeirch i'w cael yng nghanol yr hyn sydd erbyn heddiw yn anialwch y Sahara: ceir darluniau cynhanesyddol ohonynt ar furiau ogofâu yn y Tassili n'Ajjer.

lisans
cc-by-sa-3.0
telif hakkı
Awduron a golygyddion Wikipedia
orijinal
kaynağı ziyaret et
ortak site
wikipedia CY