Yr urdd o bryfed sy'n cynnwys glöynnod byw a gwyfynod yw Lepidoptera. Mae'n cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd ac yn un o'r rhywogaethau hawddaf i'w adnabod.[1] Daw'r enw o'r Roeg λεπίδος (lepidos, "cen") a πτερόν (pteron, "adain"). Mae'n cyfeirio at y cennau bach sy'n gorchuddio eu hadenydd. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Yr urdd o bryfed sy'n cynnwys glöynnod byw a gwyfynod yw Lepidoptera. Mae'n cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd ac yn un o'r rhywogaethau hawddaf i'w adnabod. Daw'r enw o'r Roeg λεπίδος (lepidos, "cen") a πτερόν (pteron, "adain"). Mae'n cyfeirio at y cennau bach sy'n gorchuddio eu hadenydd. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.