Mae'r dosbarth biolegol Jungermanniopsida yn un o dri dosbarth o Lysiau'r afu o fewn y ffylwm Marchantiophyta. hwn yw'r mwyaf o'r tri. Y ddau ddosbarth arall yw Haplomitriopsida a Marchantiopsida.[3][4][5] yn 2000 dau ddosbarth oedd gan y ffylwm, yna, yn dilyn datblygiadau gyda'r genynnau, ymddangosodd grŵp newydd sbon, sef y Haplomitriopsida.
Mae'r dosbarth hwn o Lysiau'r afu yn cynnwys sawl urdd: Fossombroniales, Jungermanniales, Metzgeriales, Pallaviciniales, Pelliales, Pleuroziales, Porellales a Ptilidiales.[6]
Mae gan lawer o'r planhigion yn y grŵp hwn ddail meddal neu/ac mae ar ffurf thaloid syml. Ychydig o nodweddion sy'n gyffredin rhyngddynt, mewn gwirionedd. Gall y dail fod yn llabedog neu'n gyfan a gall dail y rhai thaloid fod yn ganghennog. Mae tua 90% o o Lysiau'r afu yn olewog a gall y rhannau olewog amrywio o ran lleoliad yr olew ar y planhigyn.[7] Dim ond ar lysiau'r afu y math hwn o olew.[8]
Mae'r dosbarth biolegol Jungermanniopsida yn un o dri dosbarth o Lysiau'r afu o fewn y ffylwm Marchantiophyta. hwn yw'r mwyaf o'r tri. Y ddau ddosbarth arall yw Haplomitriopsida a Marchantiopsida. yn 2000 dau ddosbarth oedd gan y ffylwm, yna, yn dilyn datblygiadau gyda'r genynnau, ymddangosodd grŵp newydd sbon, sef y Haplomitriopsida.
Mae'r dosbarth hwn o Lysiau'r afu yn cynnwys sawl urdd: Fossombroniales, Jungermanniales, Metzgeriales, Pallaviciniales, Pelliales, Pleuroziales, Porellales a Ptilidiales.
Mae gan lawer o'r planhigion yn y grŵp hwn ddail meddal neu/ac mae ar ffurf thaloid syml. Ychydig o nodweddion sy'n gyffredin rhyngddynt, mewn gwirionedd. Gall y dail fod yn llabedog neu'n gyfan a gall dail y rhai thaloid fod yn ganghennog. Mae tua 90% o o Lysiau'r afu yn olewog a gall y rhannau olewog amrywio o ran lleoliad yr olew ar y planhigyn. Dim ond ar lysiau'r afu y math hwn o olew.