Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys dail lletem (enw gwyddonol: Leptoscyphus cuneifolius; enw Saesneg: wedge flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yn Ardudwy ac yng ngorllewin yr Alban ac iwerddon a gwledydd eraill. Mewn llawer o goedwigoedd mae'n tyfu yma ac acw ond mewn mannau eraill mae'n doreithiog iawn. Yn gyffredinol, mae'n ffafrio ymylon y coetiroedd hyn yn hytrach na chanol y goedwig, yn enwedig yn y mannau mwyaf llaith mewn ceunentydd. Mae i'w gael fel rheol ar foncyffion bedw (Betula), ond weithiau mae'n tyfu ar dderw (Quercus), helyg (Salix) neu griafol (Sorbus aucuparia).
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.