dcsimg

Clustlys gwyn ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Clustlys gwyn (enw gwyddonol: Diplophyllum albicans; enw Saesneg: white earwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn eithaf cyffredin ac i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac yn iwerddon, a gwleydd eraill.

Disgrifiad

Er gwaethaf ei enw, mae'r Clustlys gwyn (D. albicans) yn wyn yn unig pan mae'n sych (neu'n farw!) ac mae fel arfer yn frown neu'n weithiau coch, neu'n wyrdd yn y cysgodion. Ceir clystyrau o egin bychan gwyrdd yn aml yn ffurfio ar flaenau llabedau'r dail. Mae'r coesynnau'n tyfu hyd at 3.5 mm o led, a gallant fod yn sawl centimetr o hyd. Mae'r dail hyd at 0.8 mm o led ac 1.8 mm o hyd.

Cynefin

Fel arfer mae'r Clustlys gwyn yn tyfu ar bridd, mawn, creigiau ac yn anaml ar foncyffion, bonion coed neu hyd yn oed ar waelod coed byw. Mae'n o'r dywodfaen neu graig siâl mewn coetiroedd, gan gynnwys hen chwareli, ar glogwyni agored neu ar bridd agored ar lwybrau coedwigoedd.

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY

Clustlys gwyn: Brief Summary ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Clustlys gwyn (enw gwyddonol: Diplophyllum albicans; enw Saesneg: white earwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon yn eithaf cyffredin ac i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac yn iwerddon, a gwleydd eraill.

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY