dcsimg

Rhydlys stabler ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys stabler (enw gwyddonol: Marsupella stableri; enw Saesneg: Stabler's rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau leoliad ar arfordir Gwynedd a nifer o lefydd yn yr Alban ac Ardal y Llynnoedd.

Fel arfer, mae'r llysiau'r afu hyn yn tyfu fel matiau coch llorweddol, tebyg i edau, sy'n binc eu lliw, ond gall rhai planhigion fod yn goch tywyllach neu bron yn ddu, neu'n wyrdd yn y cysgod. Eu cynefin yw llethrau llaith y mynyddoedd.

Gall yr egin fod hyd at 15 mm o hyd, ond fel arfer maent yn llawer byrrach, ac yn gul iawn.[1]

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY

Rhydlys stabler: Brief Summary ( kymri )

tarjonnut wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Rhydlys stabler (enw gwyddonol: Marsupella stableri; enw Saesneg: Stabler's rustwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn dau leoliad ar arfordir Gwynedd a nifer o lefydd yn yr Alban ac Ardal y Llynnoedd.

Fel arfer, mae'r llysiau'r afu hyn yn tyfu fel matiau coch llorweddol, tebyg i edau, sy'n binc eu lliw, ond gall rhai planhigion fod yn goch tywyllach neu bron yn ddu, neu'n wyrdd yn y cysgod. Eu cynefin yw llethrau llaith y mynyddoedd.

Gall yr egin fod hyd at 15 mm o hyd, ond fel arfer maent yn llawer byrrach, ac yn gul iawn.

lisenssi
cc-by-sa-3.0
tekijänoikeus
Awduron a golygyddion Wikipedia
alkuperäinen
käy lähteessä
kumppanisivusto
wikipedia CY